My Shortlist

Your shortlisted jobs will appear here. To view your shortlist: Login Or Register

Date Added: Sat 18/01/2025

Wales Policy And External Affairs Officer

Manchester, M3, UK
Apply Now

Company: GENERAL MEDICAL COUNCIL

Job Type: Permanent

Salary: £29580 - £31817 per annum

ENGLISH

Wales Policy and External affairs Officer

The General Medical Council (GMC) are currently looking for a highly motivated Policy and External Affairs Officer to support and promote the GMC's political, policy and public affairs-based activities in Wales. In this role you'll help to deliver the GMC's busy programme of stakeholder engagement and shape policies and guidance to support the delivery of high-quality, person-centred care for patients.

Summary of the role:

    • To assist the team in maintaining effective working relationships with key stakeholders, including Welsh Government, the Senedd, healthcare and education bodies, and professional groups.
    • To be an expert in the Welsh political and health policy landscape, proactively monitoring external developments and providing advice and briefings to GMC colleagues as required.
    • To support and advise on the team's communication and engagement activity.
    • To monitor the media, advising colleagues on issues arising and recording and tracking themes.
    • To co-ordinate and contribute to the GMC's policy outputs, such as consultation responses, and work collaboratively with colleagues across the GMC as part of the wider policy network.
      As a Policy and External Affairs Officer, you will support our GMC policies and external affairs in Wales whilst working closely with other External Affairs and Engagement teams, and colleagues across the wider GMC.



      This is a hybrid role between home and at our Cardiff office. The current arrangement is 2 days a week in the office, usually this is Tuesdays & Wednesdays. We may ask you to attend the office on additional days where necessary, for example team meetings.



You can find more detail on the tasks you will undertake, and the essential skills required for the role, in the job description.

How to apply for the role

      Please provide a CV and covering letter. The covering letter should clearly set out how you meet the essential skills for the role, which are listed in the job description. You should also include a paragraph outlining your reasons for applying for the role.



      We recommend no more than 2 sides of A4 for the covering letter, but it can be more if required.



      We will assess the information you provide against the skills required for the role and let you know whether you will progress to the next stage of the recruitment process.



      Applications may be submitted in Welsh, please contact

#removed#

      to access a copy of the translated application form. Please be assured that an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.



If you do not provide both CV & covering letter, we will not be able to progress your application and your application could be withdrawn.

GMC Benefits - Why work for us

We work with doctors, physician associates (PAs), anaesthesia associates (AAs), those they care for and other stakeholders to support good, safe patient care across the UK. We set the standards doctors, PAs, AAs and their educators need to meet, and help them achieve them. If there are concerns these standards may not be met or that public confidence in doctors, PAs, or AAs may be at risk, we can investigate, and take action if needed.

You'll benefit from being part of an organisation that is genuinely committed to its people with several excellent benefits including:

  • 30 days holiday with the option to buy and sell more
  • A generous employer pension contribution of 15%
  • Access to a range of learning and development opportunities designed to support your ongoing progression
  • Flexible working patterns
  • Attractive salary that's reviewed annually
  • Discounts at 100s of high street and online stores
  • Discounted gym membership
  • Private medical insurance
  • Employee assistance programme
  • Cycle to work scheme for those wanting a greener commute
  • Bike lockers and shower facilities


The GMC values diversity and has made a public commitment to processes and procedures that are fair, objective, transparent and free from discrimination. We are also committed to the Disability Confident employer scheme and support the requirements of the Disability Confident interview scheme. If you have a disability and meet the cut-off mark for the essential criteria for this role as outlined in the person specification document, you will be offered an interview.

The GMC is a charity registered in England and Wales (#removed#) and Scotland (SC#removed#)

WELSH

Swyddog Polisi a Materion Allanol Cymru

Mae'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) yn chwilio am Swyddog Polisi a Materion Allanol brwdfrydig i gefnogi a hyrwyddo gweithgareddau gwleidyddol, polisi a materion cyhoeddus y GMC yng Nghymru. Yn y rôl hon, byddwch yn helpu i gyflawni rhaglen brysur y GMC o ymgysylltu â rhanddeiliaid ac yn llunio polisïau a chanllawiau i gefnogi'r gwaith o ddarparu gofal o ansawdd uchel i gleifion sy'n canolbwyntio arnynt fel unigolyn.

Crynodeb o'r swydd:

    • Helpu'r tîm i gynnal perthynas waith effeithiol â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, y Senedd, cyrff gofal iechyd ac addysg, a grwpiau proffesiynol.
    • Bod yn arbenigwr yn nhirwedd polisi gwleidyddol ac iechyd Cymru, gan fynd ati'n rhagweithiol i fonitro datblygiadau allanol a darparu cyngor a phapurau briffio i gydweithwyr y GMC yn ôl yr angen.
    • Cefnogi a chynghori ar weithgarwch cyfathrebu ac ymgysylltu'r tîm.
    • Monitro'r cyfryngau, gan gynghori cydweithwyr ar faterion sy'n codi a mynd ar drywydd themâu penodol.
    • Cydlynu a chyfrannu at allbynnau polisi'r GMC, fel ymateb i ymgynghoriadau, a gweithio gyda chydweithwyr ar draws y GMC fel rhan o'r rhwydwaith polisi ehangach.
      Fel Swyddog Polisi a Materion Allanol, byddwch yn cefnogi polisïau a materion allanol y GMC yng Nghymru gan weithio'n agos â thimau Materion Allanol ac Ymgysylltu eraill, yn ogystal â chydweithwyr ar draws y GMC yn ehangach.



      Mae hon yn swydd hybrid rhwng gweithio gartref a gweithio o'n swyddfa yng Nghaerdydd. Y trefniant presennol yw 2 ddiwrnod yr wythnos yn y swyddfa, fel arfer dydd Mawrth a dydd Mercher. Mae'n bosib y byddwn yn gofyn i chi ddod i'r swyddfa ar ddiwrnodau ychwanegol lle bo angen, er enghraifft ar gyfer cyfarfodydd tîm.



Gallwch gael rhagor o fanylion am y tasgau y byddwch yn eu cyflawni - a'r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer y swydd - yn y disgrifiad swydd.

Sut mae gwneud cais am y swydd

      Darparwch CV a llythyr eglurhaol. Dylai'r llythyr eglurhaol nodi'n glir sut rydych chi'n bodloni'r sgiliau hanfodol ar gyfer y swydd, sydd wedi'u rhestru yn y disgrifiad swydd. Dylech hefyd gynnwys paragraff yn amlinellu eich rhesymau dros wneud cais am y swydd.



      Rydym yn argymell na ddylai'r llythyr eglurhaol fod yn fwy na 2 ochr A4, ond gallwch ymhelaethu os oes angen.



      Byddwn yn asesu'r wybodaeth rydych yn ei rhoi yn erbyn y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y swydd, a byddwn yn rhoi gwybod i chi a fyddwch yn symud ymlaen i gam nesaf y broses recriwtio.



      Mae modd cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Gallwch fod yn dawel eich meddwl na fydd cais yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais yn y Saesneg. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, cysylltwch â #removed# i gael copi o'r ffurflen gais wedi'i chyfieithu.



Os na fyddwch yn darparu CV a llythyr eglurhaol, ni fyddwn yn gallu bwrw ymlaen â'ch cais ac efallai bydd eich cais yn cael ei ddileu.

Buddion y GMC - Pam gweithio i ni

Rydym yn gweithio gyda meddygon, cymdeithion meddygol (PA), cymdeithion anesthesia (AA), y rhai y maent yn gofalu amdanynt a rhanddeiliaid eraill i gefnogi gofal da a diogel i gleifion ledled y DU. Rydym yn gosod y safonau y mae angen i feddygon, cymdeithion meddygol, cymdeithion anesthesia a'u haddysgwyr eu bodloni, ac yn eu helpu i'w cyrraedd. Os oes pryderon na fydd y safonau hyn yn cael eu bodloni o bosibl, neu y gallai hyder y cyhoedd mewn meddygon, cymdeithion meddygol neu gymdeithion anesthesia fod mewn perygl, gallwn ymchwilio, a chymryd camau os oes angen.

Byddwch yn elwa o fod yn aelod o sefydliad sydd wir wedi ymrwymo i'w bobl ac sydd â llawer o fuddion gwych, gan gynnwys y canlynol:

  • 30 diwrnod o wyliau gyda'r dewis i brynu a gwerthu rhagor o wyliau
  • Cyfraniad pensiwn hael o 15% gan y cyflogwr
  • Amrywiaeth o gyfleoedd dysgu a datblygu sydd wedi'u cynllunio i gefnogi eich datblygiad parhaus
  • Patrymau gweithio hyblyg
  • Cyflog deniadol sy'n cael ei adolygu'n flynyddol
  • Gostyngiadau mewn cannoedd o siopau ar y stryd fawr ac ar-lein
  • Aelodaeth ratach i'r gampfa
  • Yswiriant meddygol preifat
  • Rhaglen cymorth i weithwyr
  • Cynllun beicio i'r gwaith ar gyfer y rheini sydd eisiau teithio'n fwy gwyrdd
  • Loceri beiciau a chyfleusterau cawod


Mae'r GMC yn gwerthfawrogi amrywiaeth, ac mae wedi gwneud ymrwymiad cyhoeddus i brosesau a gweithdrefnau sy'n deg, yn wrthrychol, yn dryloyw ac yn rhydd o wahaniaethu. Rydym hefyd wedi ymrwymo i'r cynllun cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, ac rydym yn cefnogi gofynion y cynllun cyfweld Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd a'ch bod yn bodloni'r torbwynt ar gyfer y meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd hon fel yr amlinellir ym manyleb y person, byddwch yn cael cynnig cyfweliad.

Mae'r GMC yn elusen sydd wedi'i chofrestru yng Nghymru a Lloegr (#removed#) ac yn yr Alban (SC#removed#)

Apply Now